Skip to content

Rebecca Smith Williams

Rebecca - Thumbnail

Mae Rebecca yn actores, awdur a garddwr. Astudiodd actio yn Rada a Garddwriaeth gyda’r RHS yng Ngerddi Botaneg Bryste. Mae hi’n un o gyd-sylfaenwyr cwmni theatr Triongl, sy’n gymdeithion artistig yng nghanolfan y Chapter, a gyda’i gilydd maent yn ysgrifennu a pherfformio gwaith newydd ar gyfer y llwyfan sy’n teithio o amgylch Cymru. Roedd ei lleoliad preswyl yn Ffynnon Taf ac mae hi’n archwilio’n harferion fel defnyddwyr systemau bwyd.

Cychwynnodd ei diddordeb mewn bwyd pan ddechreuodd dyfu ei bwyd ei hun am y tro cyntaf, gan sylweddoli ein bod wrth fwyta yn ymwneud â byd natur o ddydd i ddydd. Roedd Gŵyl y Cynhaeaf yn ganolbwynt symbolaidd i’w phrosiect, am mai dyma’r diwrnod pan fyddai ei chymuned yn draddodiadol yn diolch i fyd natur am y bwyd a fyddai’n eu cynnal. Fodd bynnag, mae hyn yn adlewyrchu nad oes dim o hynny mewn gwirionedd yn golygu unrhyw beth yn y gymuned led-drefol, anghrefyddol sydd bellach yn byw yno, heb unrhyw gysylltiad gwirioneddol â’r tir amaethyddol o’u cwmpas. Roedd ganddi ddiddordeb arbennig yn y ffaith mai calon y pentref bellach oedd y Co-op lleol lle caiff y bwyd ei gludo o bob cwr o’r byd wedi’i lapio mewn plastig a heb unrhyw gysylltiad â’r tir o amgylch y pentref.

Beth ddysgodd hi

Fel ffordd o herio’r model defnyddiwr hwn mewn ffordd greadigol, daeth o hyd i 50 o fathau o bwmpenni organig gan ffermwr lleol a chwiliodd am fannau cyfarfod lleol annhebygol i’w cyflwyno. Fe greodd fath o ŵyl gynhaeaf yn y safle bws y tu allan i’r Co-op, gan gyflwyno’r pwmpenni fel haelioni’r tymor a chynnig lle i’r gymuned ystyried beth mae hynny’n ei olygu iddyn nhw. Yna aeth â’r sgyrsiau hyn i drigolion Ffynnon Taf, a’r cyngor tref lleol, gan archwilio sut roedd perthynas pobl â’r tir o amgylch y pentref wedi newid. Daeth themâu yn ymwneud â newidiadau yn y ffordd y gallwn gyrchu ac ymgysylltu â byd natur o’n cwmpas i’r amlwg yn gryf yn y sgyrsiau hyn. Roedd y syniad o golli tir comin a hawliau comin hefyd yn chwarae rhan sylweddol yn ei hymchwiliad.

Beth allwn ni ei ddysgu o hyn

Mae bwyd yn un o’r systemau allweddol sydd wedi’u pennu yng ngweledigaeth Natur a Ni. Mae’n cael effaith sylweddol ar ein hallyriadau carbon ond mae yna nifer o resymau eraill hefyd pam fod ein datgysylltiad oddi wrth y broses gynhyrchu bwyd yn risg i’n dyfodol. Mae prosiect Rebecca yn amlygu pa mor hanfodol yw cynhyrchu bwyd i’n hunaniaeth ddiwylliannol a’n cysylltiad cynhenid â byd natur. Os yw ein profiad o fwyd yn gwbl safonedig a dihalog, mae rhan fawr o’r hyn sy’n gwneud i ni ofalu am y tir o’n cwmpas a gwrando ar yr hinsawdd sy’n newid yn cael ei golli. Mae dathlu tyfu a chynaeafu yn rhan o’n diwylliant ond am ba hyd, a sut gall gweledigaeth Natur a Ni helpu i gadw hynny’n fyw