Skip to content

Gwledda

Yn 2022, datblygodd yr Eisteddfod Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru brosiect partneriaeth sy’n defnyddio ymgysylltiad creadigol i dynnu sylw at gynhyrchiant bwyd yng Ngheredigion, gan wahodd arbenigwyr i ymgysylltu â thyfwyr cymunedol lleol yng Ngheredigion, gan eu haddysgu am faterion amgylcheddol sy’n ymwneud â thyfu bwyd – gan drafod syniadau’n greadigol a'u grymuso i fod yn arloesol yn eu hymagwedd fel cymuned wyrddach yn y tymor hir. Roedd hon yn rhaglen o weithdai cymunedol ar gyfer pob oed, gydag artistiaid, cerddorion a storïwyr yn cynnig cyfrwng creadigol i alluogi cymunedau i rannu eu straeon a dod o hyd i’w lleisiau. Creodd artistiaid amgylchedd sy'n ddeniadol, yn gyfeillgar ac yn hwyliog ac a fydd mor greadigol â phosibl ar draws y celfyddydau – gan ddatblygu eiliadau/perfformiadau arbennig ar gyfer digwyddiad arddangos yn yr Eisteddfod.

Ar gyfer Natur a Ni, roedd y prosiect yn cefnogi themâu datblygol Natur a Ni. Galluogodd y prosiect i'r holl bartneriaid hybu dealltwriaeth o’r ‘wyddoniaeth’ sydd wrth wraidd yr argyfwng hinsawdd mewn cyd-destun cyfrwng Cymraeg hefyd, yn ogystal â dysgu o brofiadau creadigol a byw o gydweithio â chymunedau Cymraeg a di-Gymraeg.

Mae ffilm yn dogfennu’r prosiect i’w gweld yma:

Gyda diolch i: