Skip to content

Comisiynau Awduron

Ym mis Mawrth 2022, rhoddodd Llenyddiaeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru wahoddiad i bedwar tîm o awduron a hwyluswyr creadigol i ddyfeisio a chyflwyno prosiectau a oedd yn archwilio’r cysylltiad rhwng llenyddiaeth, llesiant, a’r amgylchedd naturiol. Gan gyd-fynd â themâu Natur a Ni, y nod oedd ymgysylltu â grwpiau a oedd heb gynrychiolaeth ddigonol a grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol â lleoliadau natur a byd natur.

I Natur a Ni, dangosodd y prosiect hwn y potensial sydd gan natur fel rhan o’n llesiant unigol a chymdeithasol, a’r rôl y gall creadigrwydd ei chwarae i wella’r budd hwnnw. Y canlyniad oedd pedwar dull gwahanol iawn, ond roedd dyfnder, gofal ac ystyriaeth ryfeddol i'r cyfranogwyr yn perthyn i bob un. Mae pob prosiect yn darparu dysgu diddorol am y ffordd y gallem ymgorffori llesiant i'r weledigaeth yr ydym yn ei gweld ar gyfer dyfodol ein hamgylchedd naturiol.

Bethany Handley a Megan Hunter

Gwyn Ruddell Lewis a Sarah Douglass

Taylor Edmonds a Nasia Sarwar-Skuse

Natasha Borton a Anastacia Ackers

Gyda diolch i: