Skip to content

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://naturani.cymru

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall. Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Nid oes modd diystyru cynnwys sy’n ymddangos wrth hofran dros y ddewislen lywio.
  • Nid oes gan fideos wedi’u recordio ymlaen llaw drawsgrifiad testun na disgrifiad sain amgen.
  • Defnyddir labeli aria mewn rolau lle nad ydynt yn cael eu caniatáu.

Adborth a manylion cyswllt

Os oes arnoch angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Canolfan Gofal Cwsmeriaid
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 2 ddiwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd sy’n ymwneud â’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, anfonwch e-bost at Dîm Digidol CNC yn digidol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni

Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfnewid testun i bobl F/fyddar, pobl sydd â nam ar y clyw neu nam ar eu lleferydd.

Mae system dolen glywed yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfedd Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon Lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Nid oes gan y fideos a recordiwyd ymlaen llaw ar y tudalennau Canfyddiadau Cam 1 ac AILolwg drawsgrifiad testun disgrifiadol na thrac disgrifiad sain. Mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cael anhawster gwylio fideos neu gynnwys cyfryngau wedi’i gydamseru yn gallu cyrchu’r wybodaeth yn y fideos hyn. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.2.3 (disgrifiad sain neu gyfryngau amgen (wedi’u recordio ymlaen llaw)). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 31 Mawrth 2024

Nid oes gan fideos a recordiwyd ymlaen llaw ar dudalennau Canfyddiadau Cam 1 ac AILolwg drac disgrifiad sain amgen. Mae’n bosib y bydd pobl sy’n ddall neu â golwg gwan, yn ogystal â’r rhai â chyfyngiadau gwybyddol, yn cael anhawster dehongli’n weledol yr hyn sy’n digwydd yn y cynnwys fideo a recordiwyd ymlaen llaw. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.2.5 (disgrifiad sain (wedi’i recordio ymlaen llaw)). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 31 Mawrth 2024

Nid oes modd defnyddio bysellfwrdd i ddiystyru cynnwys ychwanegol sy’n ymddangos wrth hofran dros y ddewislen lywio. Gall hyn achosi i bobl sy’n defnyddio meddalwedd chwyddo sgrin sbarduno’r cynnwys yn anfwriadol a methu â diystyru’r cwymplenni sy’n gallu cuddio cynnwys ar y lefelau chwyddo uwch hyn. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.4.13 (cynnwys hofran neu ffocws). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn: 31 Mawrth 2024

Ar dudalennau Canfyddiadau Cam 1 ac AILolwg, defnyddir labeli aria mewn rolau lle nad ydynt yn cael eu caniatáu. Gall hyn olygu na chaiff gwybodaeth bwysig ei chyfleu i ddefnyddwyr technolegau cynorthwyol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 4.1.2 (enw, rôl, gwerth).

Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 20 Hydref 2023. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 8 Tachwedd 2023.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 19 Hydref 2023. Gwnaed y prawf gan Zoonou. Defnyddiodd Zoonou WCAG-EM i ddiffinio’r tudalennau a brofwyd a’r dull profi.