Skip to content

Georgina Biggs

Gina - Thumbnail

Gina Biggs yw Cyfarwyddwr Artistig SheWolf, cwmni perfformio o dan arweiniad pobl anabl sy’n dod â thirwedd yn fyw trwy berfformiad. Ar gyfer y preswyliad hwn, mae Gina Biggs yn archwilio'r olygfa o'i ffenest – ar draws Bae Caerdydd tuag at Ynys Echni. Gan gydweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru a’r prosiect Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol, bu Gina yn cyfweld stiwardiaid tir a môr, gan ymgysylltu â bioamrywiaeth ecosystemau morol a gwyddoniaeth newid hinsawdd er mwyn gofyn y cwestiynau canlynol: Sut y gall profiad bywyd pobl anabl helpu i lywio cymdeithas flaengar? Beth sy'n gyffredin rhyngddo a chyd-destunau amgylcheddol ansefydlog? A sut y gall y cysylltiadau hyn helpu i leoli grym a newid sut mae grym yn gweithio?

Beth ddysgodd hi:

Wrth fyfyrio ar y prosiect, dywedodd Gina: “Mae Ynys Echni yn ficrocosm o gymdeithas fodern mewn sawl ffordd, ond mae unrhyw gamau y byddwch yn eu cymryd yno yn cael effaith fwy uniongyrchol a gweladwy. Er enghraifft:

  • Os ydych yn creu gwastraff, rhaid i chi fynd ag ef gyda chi mewn bag bin oddi ar yr ynys ar y cwch.
  • Mae’r ynys fel rhwyd sy'n casglu sbwriel a gaiff ei olchi i lawr Môr Hafren – tra oeddem ni yno, casglodd lawer iawn o blastigion yn ogystal â mochyn daear marw, a drodd yn oren fflwroleuol wrth iddo bydru, a llamhidydd bach marw a oedd wedi cael ei drywanu gan bostyn ffens.
  • Mae'r gwylanod preswyl, sy'n bwyta gwastraff o domenni sbwriel Caerdydd ac yn dal botwliaeth, yn dychwelyd i'r ynys ac yn marw yno, yn cael eu parlysu'n araf fesul adain. Mae eu cyrff yn gorwedd ar y ddaear, a gan nad oes unrhyw ysglyfaethwyr naturiol yno, rhaid i'r wardeniaid eu casglu er mwyn gwneud y lle yn daclus i ymwelwyr.
  • Mae newidiadau i batrymau tywydd a lefelau llygredd golau yn cael effaith fesuradwy ar boblogaethau adar y môr a gwyfynod. Mae'r lefelau hyn yn hawdd eu mesur mewn gofodau bach, a gellir olrhain y newidiadau bob blwyddyn.
  • Mae'r tir yn erydu, a chan fod lefel y môr yn codi, mae mwy o dir yn diflannu bob blwyddyn.
  • Gallwch ddefnyddio gwresogydd trydan, ond dim ond pan fydd yr haul yn tywynnu, a'r goleuadau pan fydd hi'n wyntog, oherwydd daw eich ynni o grid bach sydd wedi'i gysylltu â phaneli a thyrbinau ar yr ynys. Felly rydych chi'n cynllunio'ch defnydd o ynni mewn ffordd wahanol.
  • O’r ynys, gallwch weld Avonmouth, Gorsaf Bŵer Niwclear Hinkley Point, tyrbinau gwynt y Cymoedd, Dociau’r Barri, a Bae Caerdydd – lle'r arferai glo deyrnasu. Dyma’r dewisiadau sydd gennym i greu ynni – a bydd pob penderfyniad yn cael effaith ar yr ynys. Y cwestiwn yw, pa ddrwg sydd fwyaf caredig, gan y bydd yn cael effaith ar fyd natur y naill ffordd neu'r llall.
  • Caiff dŵr yfed ei gynaeafu – nid trwy'r hen ddalgylch dŵr Fictoraidd mwyach – ond mae’n dal i gael ei gasglu, ei hidlo a'i glorineiddio. Ond mae lefelau clorineiddio cyson yn golygu gorfod defnyddio cyfleusterau yn rheolaidd, felly yn hytrach na hynny, rydyn ni'n berwi popeth rydyn ni'n ei fwyta. Rhaid ystyried yr amser mae'n ei gymryd ar gyfer paratoadau fel hyn.

Ond nid yw’r ynys yn ddelfryd diniwed. Er y gall deimlo ar ddiwrnod heulog (fel y dywedodd un ymwelydd) fel eich bod ar ynys Roegaidd, yn y gaeaf mae’r amodau’n arw ac yn anodd eu dioddef. A gydol y flwyddyn, mae'r pridd wedi'i wenwyno â gwythiennau galena – bydd beth bynnag y byddwch yn ei dyfu yno yn cynnwys plwm gwenwynig. Mae'r rhai olaf o ddiadell o ddefaid Soay sydd yn marw yn derbyn eu tynged yn ymostyngol a daethpwyd o hyd i gorff newydd y tu allan i lwyfan saethu – Death Valley, fel y bydd trigolion yr ynys yn cyfeirio ato'n gellweirus.

Wrth feddwl am y penderfyniadau rwy’n eu gwneud yn bersonol, gallai rhai o’r newidiadau y gallwn i ac eraill fod yn eu gwneud olygu colli cysuron sylweddol (e.e. bywyd heb y moethau), a bydd rhaid i rai wynebu costau ymlaen llaw (e.e. car trydan, amddiffyniad glanweithiol cynaliadwy, gwydro triphlyg). Felly'r cwestiwn yw, beth ydym ni fel unigolion yn fodlon ei aberthu?

Ond o’r ynys, wrth wylio’r nifer fawr o longau cynwysyddion yn mynd heibio’n ddyddiol, mae’n hawdd teimlo nad yw unrhyw newid bach personol yr ydym ni'n ei wneud yn mynd i wneud gwahaniaeth, o ystyried bod pob llong gynwysyddion yn gwario £84,000 y dydd ar ddisel (£390 y dunnell o danwydd, gan ddefnyddio 217 tunnell y dydd).

Mae'r ynys yn gweithredu drwy fuddsoddi mewn ‘gwarcheidwaid’ sy'n gofalu am yr ardal leol. Mae'n fodel o fwrdeistref. Sut mae'r hyn yr wyf i'n ei wneud, yn ein milltir sgwâr, yn cymharu â'r newidiadau cymdeithasol mwy? Mae angen i ni atgyfnerthu'r syniad hwn o fyw'n lleol – gweithio, bwyta a chwarae.

Ac, yn olaf, sut ydym ni'n cael pobl i ddeall yr angen dybryd sydd am newid os caiff y niwed ei wneud mewn camau bychain, gan ddilyn amserlen ddaearegol bron. Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o fynegi’r newid cynyddol hwn mewn ffyrdd diriaethol.”

Yr hyn y gallwn ei ddysgu o hyn

Mae ymchwiliad Gina yn cynnig persbectif arall ar natur ansicr ein harfordir. Mae'n cyflwyno'r achos dros edrych ar adlinio arfordirol drwy lens anabledd ac ailystyried ein ffordd o gyfathrebu newidiadau i'n traethlin, sy’n aml yn or-syml ac yn wrthrychol. Mae'r syniad o ailfeddwl am y ffordd yr ydym yn siarad am effeithiau newid hinsawdd yn teimlo'n bwysig, "dod o hyd i ffyrdd o fynegi'r newid cynyddol hwn mewn ffyrdd diriaethol" a chysylltu profiad bywyd go iawn â cholli cartrefi a chymuned. Mae gwneud lle i gydnabod yr hyn a fydd yn cael ei golli yn y weledigaeth ar gyfer y dyfodol yr un mor bwysig â'r hyn a enillir.