Skip to content

Pa ddyfodol ydyn ni eisiau ar gyfer ein hamgylchedd naturiol?

Mae Natur a Ni yn cynnwys pobl Cymru mewn sgwrs genedlaethol am yr amgylchedd naturiol. Y nod yw datblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer 2050 ac ystyried y newidiadau sydd angen i ni eu gwneud wrth baratoi ar gyfer 2030 a 2050, fel unigolion ac fel gwlad.  

Gofynnom i bobl yng Nghymru, “pa ddyfodol ydych chi eisiau ar gyfer yr amgylchedd naturiol?" A dyma oedd eu hymateb: 

Yn 2050, pan fydd cymdeithas a natur yn ffynnu gyda’i gilydd, bydd...

  • Pobl a’r Llywodraeth yn ymrwymo ar y cyd i warchod yr amgylchedd naturiol.
  • Arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru yn helpu’r cyhoedd i gymryd mwy o ran mewn penderfyniadau am fyd natur. 
  • Rhannu gwybodaeth yn helpu pobl i ddeall sut mae byd natur yn effeithio ar eu bywydau, a’r camau y gallan nhw eu cymryd i helpu i warchod ac adfer yr amgylchedd naturiol. 
  • Mynediad eang i fyd natur yn helpu pobl ledled Cymru i fyw bywydau hapus ac iach. 
  • Opsiynau gwyrddach ar gyfer trafnidiaeth ac ynni yn galluogi mwy o bobl i wneud dewisiadau ecogyfeillgar yn eu bywydau bob dydd. 
  • Rheoli tir yn gynaliadwy yn helpu cymunedau i brynu bwyd lleol a theimlo cysylltiad â thir Cymru. 
Gweledigaeth Natur a Ni ar gyfer Cymru 2050:
Crynodeb o’r weledigaeth Natur a Ni (pdf)

Cam 1 Canfyddiadau

Mae'n crynhoi canfyddiadau cam cyntaf y sgwrs genedlaethol ar ba fath o ddyfodol yr ydym am ei weld ar gyfer ein hamgylchedd naturiol.

Cam 2 Canfyddiadau

Mae’n crynhoi canfyddiadau ail gam y sgwrs genedlaethol ar ba ddyfodol rydym yn awyddus i’w sicrhau ar gyfer ein hamgylchedd naturiol.

Cynulliad y Dinasyddion

Cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru gynulliad dinasyddion i adolygu canfyddiadau a gwaith ehangach Natur a'r Ni a chytuno ar y weledigaeth a rennir.

Gwrandewch ar yr hyn oedd gan bobl i'w ddweud.

Dylai’r ymrwymiad hwn gynnwys ffyrdd o wella’r amgylchedd, gan ganolbwyntio ar integreiddio natur i’n bywydau bob dydd.

“…mae angen i’r llywodraeth rannu ei chynllun i warchod ac adfer yr amgylchedd naturiol. Bydd hyn yn egluro sut y gallwn helpu i amddiffyn anifeiliaid a phlanhigion sydd mewn perygl ac adfer ble maent yn byw”.

Nodwyd bod arweinyddiaeth gref o bob rhan o’r Llywodraeth yn ffordd y gellid cyflawni hyn. 

“…mae angen i lywodraeth ar bob lefel gynnwys pobl yn rhan o’r drafodaeth a gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar wybodaeth a thystiolaeth glir yn hytrach na buddiannau plaid wleidyddol a buddiannau breintiedig eraill. Bydd hyn yn rhoi mwy o rym i’r cyhoedd ac yn sicrhau bod y llywodraeth yn mabwysiadu’r ymagwedd orau at natur”.

Dywedodd y cyfranogwyr y byddai gwybodaeth am ba gamau y dylid eu cymryd a fyddai’n llesol ac nid yn niweidiol i fyd natur yn cael eu rhannu’n agored rhwng cymunedau ac ar draws pob grŵp oedran yn y dyfodol. 

“…bydd gwybodaeth glir a hygyrch yn amlygu’r gwahanol ffyrdd y gall dinasyddion ymateb. Bydd hyn yn helpu dinasyddion i wybod pa gamau y gallant eu cymryd i helpu natur a chymdeithas i ffynnu.”

Ond cydnabuwyd nad yw pawb yn cael yr un cyfleoedd i brofi byd natur.

“Mae angen mwy o fynediad cyfartal i fyd natur ar gymdeithas Cymru, ac mae angen gwneud ei hamgylchedd yn llai llygredig fel bod pawb yn gallu elwa o fyd natur. Bydd hyn yn gwella iechyd meddwl a chorfforol pobl yng Nghymru”.

Fodd bynnag, nid yw bob amser yn bosibl i bobl wneud penderfyniadau os nad oes dewis, neu os yw’r dewisiadau’n gyfyngedig, yn anfforddiadwy neu’n anneniadol. 

“Mae angen i ni fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, technolegau ynni adnewyddadwy a rheoli gwastraff, yn ogystal â lleihau effaith anghydraddoldebau rhwng pobl a’u cymunedau. Bydd hyn yn rhoi mynediad mwy cyfartal i ddewisiadau ffordd o fyw gwyrddach i bobl ledled Cymru.”

Roedd pobl yn gweld hwn yn gyfle i ddatblygu gwell cysylltiad rhwng pobl a thir Cymru.

“…mae angen i’r llywodraeth ar bob lefel helpu i wneud ffermio’n fwy cynaliadwy a gwneud bwyd lleol yn fforddiadwy. Bydd hyn yn helpu pobl i brynu mwy o fwyd lleol a chynaliadwy ac adfer byd natur.” 

Os hoffech gael gwybod am ddatblygiadau Natur a Ni yn y dyfodol, e-bostiwch naturani@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio.