Skip to content

Gwyn and Sarah

Gwyn and Sarah

Cyflwynodd Gwyn Lewis a Sarah Douglas brosiect o’r enw Writing Tree. Daw enw'r prosiect o'r ffawydden (neu'r goeden ysgrifennu). Yr hen enw Saesneg ar y goeden hon oedd bōc, ac o'r gair hwn y daeth ‘book’. Mae’r prosiect yn gweithio gyda phartneriaid mamau newydd i wella eu llesiant a datblygu cysylltiad agosach â byd natur. Cymerodd y cyfranogwyr ran mewn sesiynau ymdrochi yn y goedwig (amser trochi, ystyriol ym myd natur) a gweithdai ysgrifennu creadigol myfyriol. Defnyddiwyd y sesiynau hyn fel catalydd ar gyfer ysgrifennu creadigol y bydd cyfranogwyr yn ei ddatblygu trwy weithdai, gan fyfyrio ar eu hamser ym myd natur. Drwy wella eu llesiant eu hunain, y nod oedd y bydd cyfranogwyr yn gallu cefnogi eu teuluoedd newydd yn well a meithrin cysylltiad â byd natur y gellir ei drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.

Datblygwyd y prosiect hwn mewn partneriaeth â gwasanaeth amenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a gellir gweld adroddiad llawn ar y prosiect yma:

Final Writing tree evaluation

Mae Gwyn Lewis yn fyfyriwr doethurol mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gweithio ar nofel sy'n archwilio trawma a'r corff, wedi'i gosod mewn gwladfa Gymreig ffuglennol yn Nwyrain Ewrop. Mae Sarah Douglass wedi bod yn Brif Seicolegydd Clinigol ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Arbenigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ers iddo gael ei sefydlu yn 2016.