Hen Wlad Ein Plant
Roedd Hen Wlad Ein Plant yn gydweithrediad rhwng Gentle/Radical, National Theatre Wales a Cyfoeth Naturiol Cymru a wnaed yn bosibl gan gronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.
Ar gyfer y prosiect hwn, dewiswyd wyth artist i ymgymryd â chyfres o breswyliadau ‘hyperleol’. Roedd hyn yn golygu eu bod yn treulio amser yn eu ‘milltir sgwâr’ yn dadorchuddio a datrys problemau. Yn gofyn cwestiynau iddynt eu hunain a'r bobl o'u cwmpas. Yn edrych ar y pethau bach er mwyn deall y pethau mawr. Cyflwynodd pob artist olygfa unigryw o'r byd o'u cwmpas. Cawsant eu paru â mentoriaid a buont yn rhyngweithio ag arbenigwyr a gwyddonwyr i'w helpu i archwilio eu cymdogaeth trwy lens eu profiad bywyd eu hunain. Gofynasom iddynt gwestiynu beth mae’r safbwyntiau hyn yn ei gyfrannu at y ffordd yr ydym yn gweld ac yn siarad am ddyfodol ein cymunedau, a dyfodol ein hamgylchedd naturiol.
I Natur a Ni, bwriad y prosiect hwn oedd archwilio sut y gallai’r lleisiau creadigol unigol hyn helpu i amlygu themâu sy’n bwysig i ni eu hystyried o ran polisi cyhoeddus, a chyfrannu at y weledigaeth sy’n datblygu.
Artistiaid Hen Wlad Ein Plant
![NIW logo NIW logo](https://naturani-storage.wiss.co.uk/media/images/niw.height-50.png)
![G/R logo G/R logo](https://naturani-storage.wiss.co.uk/media/images/gr_XOG3aqB.height-50.png)
![Cyngor Celfddydau Cymru / Arts Council of Wales - Ariennir gan y Loteri / Lottery funded - Noddir gan Lywodraeth Cymru / Sponsored by Welsh Governement logo Cyngor Celfddydau Cymru / Arts Council of Wales - Ariennir gan y Loteri / Lottery funded - Noddir gan Lywodraeth Cymru / Sponsored by Welsh Governement logo](https://naturani-storage.wiss.co.uk/media/images/arts_council_of_wales_cRHRTcx.height-50.png)
![National Theatre Wales National Theatre Wales](https://naturani-storage.wiss.co.uk/media/images/NTW_Logo_419x187.height-50.png)